Genesis 15

Ymrwymiad Duw ag Abram

1Rywbryd wedyn, dyma'r Arglwydd yn siarad gydag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.” 2Ond meddai Abram, “O Feistr, Arglwydd, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus
15:2 Hebraeg yn ansicr.
fydd yn cael popeth sydd gen i!”
3Ac aeth yn ei flaen i ddweud, “Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly bydd caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni yn etifeddu'r cwbl!” 4Ond dyma'r Arglwydd yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.” 5A dyma'r Arglwydd yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i'w cyfri.” 6Credodd Abram yr Arglwydd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.

7Wedyn dwedodd yr Arglwydd wrtho, “Fi ydy'r Arglwydd sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.” 8Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, Arglwydd, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?” 9Yna dwedodd yr Arglwydd wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.” 10Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner. 11Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.

12Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto. 13Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. 14Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo. 15(Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.) 16Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”

17Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau'r anifeiliaid. 18Y diwrnod hwnnw dyma'r Arglwydd yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates. 19Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid, 20Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid, 21Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”

Copyright information for CYM